Polisi Bwyd a Maeth

Mae Meithrinfa Miri Mawr yn cydnabod pwysigrwydd darparu prydau maethlon a chytbwys i blant sy’n mynychu’r lleoliad. Rydym yn pwysleisio’r angen i bob plentyn gael diet sy’n hyrwyddo datblygiad a thwf.

Rydym yn cydymffurfio â safonau gofynnol cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu bwyd a diod, ac yn anelu at ddangos arfer gorau ym mhob agwedd ar fwyd ac iechyd.

Rydym yn darparu amgylchedd cymdeithasol sy’n cefnogi ac yn annog plant i fwyta’n dda ac i ddysgu am fwyta’n iach drwy agweddau o’u chwarae a’u dysgu.

Anogir plant i fod yn annibynnol yn ystod amseroedd bwyd, e.e. arllwys eu diodydd (dŵr/llefrith) eu hunain a thaenu menyn/caws hufen ar eu craceri amser te.

Yn Miri Mawr, mae plant yn derbyn amrywiaeth eang o fwyd ffres sy’n cael ei baratoi yn gegin y feithrinfa. Wrth gynllunio’r bwydlenni, rydym wedi ystyried beth fyddai’n iach, amrywiol a phleserus i blant. Rydym yn sicrhau bod y bwydlenni a baratoir yn bodloni anghenion deietegol pob unigolyn.

Bwyd a Maeth  | Meithrinfa Miri Mawr

Mae prydau bwyd yn cael eu gweini mewn amgylchedd cyfforddus a diogel. Mae gofalwyr yn eistedd gyda’r plant yn ystod amseroedd bwyd ac anogir plant i ddatblygu sgiliau bwyta da a moesau yn ystod amseroedd bwyd.

Mae’r prydau’n faethlon ac o ansawdd da, gan ddilyn argymhellion Canllawiau Bwyd ac Iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (2019). Rydym yn dilyn y Canllaw Eatwell wrth baratoi bwyd.

Dyfarnwyd Tystysgrif Cyflawniad i Miri Mawr fel cydnabyddiaeth o Wobr Byrbrydau Iach Safon Aur Plus ym mis Ebrill 2018. Mynychwyd sesiwn adnewyddu pellach mewn Sgiliau Bwyd a Maeth Lefel 2 ym mis Tachwedd 2022. Bydd hyn yn galluogi Miri Mawr i fod yn gymwys ar gyfer Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur ar lefel PLUS.

Rhoddir y fwydlen ddyddiol i rieni wrth gofrestru ac maent yn cael eu cylchdroi bob 3 wythnos. Mae’r bwydlenni’n newid yn dymhorol e.e. Gwanwyn/Haf a Hydref/Gaeaf.

Mae’n ofynnol i rieni â phlant sydd ag anghenion deietegol arbennig ddarparu digon o wybodaeth am ofynion eu plentyn. Gofynnir i rieni lenwi ffurflen sy’n cael ei harddangos ar wal y gegin.

Mae dŵr yn cael ei weini gyda brecwast, dŵr amser cinio ac mae ar gael yn rhydd drwy gydol y dydd, ac mae llaeth yn cael ei weini amser te.