Mae’n bleser gweld y plant mor hapus yn mynd i Miri Mawr bob bore; mae’r staff bob amser yn garedig ac yn gwrtais. Maent yn mwynhau’n fawr yr holl weithgareddau creadigol yno, yn enwedig y sesiynau coginio, sy’n ffefryn mawr. Rydym yn ffodus iawn i gael tîm mor groesawgar yma yn Llandaf sy’n creu amgylchedd mor gadarnhaol i’r plant ffynnu ynddo.
Rhieni Delilah a Macsen
Rydym wedi cael profiad hollol wych. Mae’r gofal yn rhagorol, ac mae’r profiadau y mae’r plant yn eu cael yn wych — llawn hwyl, creadigrwydd a chyfleoedd i ddysgu drwy chwarae.
Mae’r staff yn hynod ofalgar, amyneddgar a chyfeillgar, ac maent yn adnabod y plant mor dda. Rydym wedi gweld cymaint o ddatblygiad a hyder yn ein plant, ac maent bob amser yn edrych ymlaen at fynd.
Byddem yn argymell y feithrinfa yn llwyr i unrhyw un sy’n chwilio am le arbennig i’w plentyn.
Rhieni Alys and Gruff
Mae’n anodd gadael eich plant pan fyddant yn ifanc mewn meithrinfa, ond mae’r staff a’r awyrgylch gynnes wedi gwneud y profiad yn llawer haws.
Mae Martha, Tom a Harri wedi elwa’n fawr o’u profiadau. Mae cymaint o gyfleoedd yn cael eu cynnig yn y feithrinfa ac hefyd yn y gymuned a’r ardal leol.
Mae’r plant wedi tyfu mewn hyder i ddysgu, i chwarae, i gymdeithasu ac i berfformio. Diolch am roi’r dechrau gorau posibl iddynt ar eu taith!
Rhieni Martha, Tom and Harri
Mae’n bleser gweld y plant mor hapus yn mynd i mewn bob bore; mae’r staff bob amser yn garedig ac yn gwrtais. Maent yn mwynhau’n fawr yr holl weithgareddau creadigol yno, yn enwedig y sesiynau coginio, sy’n ffefryn mawr. Rydym yn ffodus iawn i gael tîm mor groesawgar yma yn Llandaf, sy’n creu amgylchedd mor gadarnhaol i’r plant ffynnu ynddo.
Rhieni Taliesin and Nesta
Mae Miri Mawr yn feithrinfa ragorol. Rwyf wedi anfon fy mhlant yno dros gyfnod o bum mlynedd, ac mae’r gofal a’r cyfleoedd y maent wedi’u derbyn wedi bod yn wych.
Mae’n amlwg bod arweinyddiaeth gref ac effeithiol yn y lleoliad, a bod y staff yn ymfalchïo yn eu gwaith. Mae’r ffaith nad yw cyn lleied o staff yn gadael y feithrinfa yn arwydd o amgylchedd gwaith cadarnhaol a sefydlog.
Mae hyn yn darparu sylfaen gyson a strwythuredig ar gyfer bywydau plant ifanc, gan eu harwain tuag at gyfleoedd dysgu gwerthfawr a gofal o’r safon uchaf. Mae’r cyfleoedd ychwanegol — megis sesiynau Ysgol Goedwig a gweithgareddau yn yr ardal leol — wedi bod o fudd mawr i fy mhlant ac wedi cyfoethogi eu profiadau.
Mae safon y Gymraeg yn y feithrinfa hefyd yn dda, ac mae fy mhlant yn hyderus yn cyfathrebu yn eu hiaith gartref yn ystod eu hamser yno.
Byddaf yn sicr yn anfon fy mhlentyn ieuengaf yno yn y misoedd nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â’n perthynas gyda’r feithrinfa.
Rhieni Harri a Mati